Saturday 12 January 2013

Cyflwyno fy hun

Croeso cynnes i blog newydd fi!  Ydych chi'n eistedd yng nghyfforddus?  Gwych  

Dwi erioed wedi ysgrifennu blog o'r blaen, ond dwi'n edrych am ffyrdd newydd i helpu fi dysgu Cymraeg a rhannu fy mhrofiadau gyda dysgwyr eraill.  Dwi eisiau creu lle clud i chi i rhannu eich profiadau gyda fi hefyd.  

Dwi ddim yn rhugl, felly yn gyntaf, bydd rhaid i fi ymddiheuro am unrhyw camgymeriadau!  Fel pob dysgwr arall, dwi'n cael problemau gyda phob math o bethau - treigladau yn arbennig!!  Dwi ofyn i chi i fod yn amyneddgar gyda fi plis :)

Dim ond post byr i ddechrau ydy hwn, felly wna i rhannu rhai 'vital stats' fi gyda chi!  (Www, dwi'n teimlo fel seleb yn barod!!)

Enw
Rachel

Lleoliad 
Dwi'n byw yng Nghaerdydd nawr, ond dwi'n dod o'r cymoedd Rhondda yn wreiddiol, felly mae acen ffab gyda fi i siarad Cymraeg!

Swydd 
Dwi'n gweithio mewn cysylltiadau cyhoeddus 

Lefel Cymraeg 
Mae lefel-A Cymraeg ail-iaith gyda fi, ond wnes i ddim siarad lot o Gymraeg ar ol adael yr ysgol.  Pan cwrddais i a gwr fi (sy'n siaradwr Cymraeg yn rhugl), penderfynais i i ddechrau dysgu Cymraeg eto.  Nawr, dwi dal yn mynd i wersi Cymraeg i Oedolion yn Nhreganna trwy Prifysgol Caerdydd, a dwi'n rili mwynhau dysgu'r iaith

Significant Others
Mae gwr 'da fi sy'n siarad Cymraeg.  Gog yw e, felly 'dyn ni'n cael lot o 'debates' am beth ydy'r geiriau Cymraeg cywir! (e.e. llaeth vs. llefrith!)  Er fy mod i'n dysgu yn y De, weithiau dwi'n ffeindio fy mod i'n siarad mix o Cymraeg (e.e. weithiau dwi'n defnyddio 'mae ... gyda fi', a weithiau 'mae gen i ...')

Diddordebau
Dwi'n hoffi darllen, a dwi'n trio i ddarllen mwy o lyfrau Cymraeg.  Dwi'n rili hoffi'r cyfres Blodwen Jones, ac ar hyn o bryd dwi'n darllen Madamrygbi - Y Briodas.   Bydd rhaid i fi ysgrifennu 'book report' i chi!  

Wel, dyna fi am y tro.  Wna i adael chi gyda geiriadur bach i helpu chi i ddeall y post yma.  Dwi'n gobeithio eich bod chi wedi mwynhau darllen, ac yn edrych ymlaen at eich gweld yma yn fuan.

Rx


Geiriadur

  • Cyflwyno - to introduce
  • Rhannu - to share
  • Clud - cosy
  • Ymddiheuro - to apologise
  • Camgymeriadau - mistakes
  • Amyneddgar - patient
  • Cysylltiadau cyhoeddus - public relations
  • Treganna - Canton (ardal yng Nghaerdydd)

5 comments:

  1. Diolch yn fawr iawn i chi - mor falch bod pobl yn ei hoffi! Edrych 'mlaen at ysgrifennu lot mwy!

    ReplyDelete
  2. Croeso i'r byd blogio Cymraeg a syniad gwych am flog. Dw i ac ambell gic arall wedi bod wrthi'n creu cyfeiriadur o 450+ blog Cymraeg, ac wedi eu dosbarthu yn ol pwnc.

    Mae yna rai am ddysgu Cymraeg:
    http://hedyn.net/wici/Categori:Blog_am_ddysgu_Cymraeg

    Dan ni hefyd wedi creu rhest o flogiau Saesneg am ddysgu Cymraeg.

    Mae sawl un o'r 450 blog wedi dod i ben rwan gwaetha'r modd, ond mae ambell un falle hofet ddarllen er mwyn syniadau am beth i'w bostio.
    http://cardiffcymraeg.wordpress.com/ (amcan tebyg i un ti, ond yn Saesneg)
    http://wonderfulwelsh.blogspot.co.uk/ (Saesneg eto, ond doniol iawn)
    http://learningwelsh.wordpress.com/ (blog Cymraeg, bellach - mae'r awdur yn dysgu Cymraeg ond hefyd yn diwtor Sgiliau Syflaenol. Mae hi'n rhannu lot o tips dysgu ac addysgu da)

    Dw i a'm ffrind Carl yn cynnal eincaerdydd.com, felly os hoffet gyfranu cofnod am unrhyw beth yn ymwneud a Chaerdydd, mae croeso i ti wneud.

    Dweda helo wrth y gwr drostaf...

    ReplyDelete
  3. Diolch o'r galon i ti Rhys; gwybodaeth a tips gwych. Dwi'n rili hoffi'r cardiffcymraeg blog - ffab! Wnai bendant yn meddwl am gyfranu rhywbeth i eincaerdydd - diolch

    Gwr yn dweud helo :)

    ReplyDelete