Thursday 14 February 2013

Rhoi'r Gorau

Paid a phoeni - dwi ddim yn rhoi'r gorau i ddysgu Cymraeg!

Mae'r Grawys wedi dechrau, y cyfnod pan fydd pobl yn meddwl am roi'r gorau i bethau am ddeugain dyddiau a deugain nosau.  Dwi wedi trio rhoi'r gorau i bethau am y Grawys yn y gorffennol - siocled, gwin, caws, bara - ond dwi wedi methu bob amser!

Dwi wedi bod yn meddwl am rhywbeth i roi lan eleni i helpu fi gyda dysgu Cymraeg.  Meddyliais i am roi'r gorau i Saesneg ... ond roedd y syniad yn tipyn bach rhy uchelgeisiol, hyd yn oed i fi!!  A ddim yn hollol ymarferol, yn arbennig yn y gweithle!!

Felly, dwi wedi penderfynu i gymryd ffordd gwahanol.  Dydy'r blog 'ma ddim am roi'r gorau; mae'r blog 'ma am ddyfalbarhad a gobaith fi i fod yn siaradwr Cymraeg.  Felly, yn hytrach na rhoi rhywbeth lan i'r Grawys, dwi'n mynd i ddyfalbarhau gyda siarad Cymraeg.

Dyma beth dwi'n gobeithio wneud dros yr wythnosau nesa...

  • Bydda i'n blog a tweet yn fwy o aml i ymarfer Cymraeg ysgrifenedig fi
  • Bydda i'n siarad gyda siaradwyr Cymraeg eraill...yn Gymraeg (ie, hollol crazy, dwi'n gwybod...!)
  • Darllena i yn Gymraeg mor aml a phosib - llyfrau, cylchgrawnau, ar y we, etc
  • Wna i trio i wylio un rhaglen (o leiaf) ar S4C bob dydd, yn dechrau gyda Pobl y Chyff heno (siawns i weld Rhys Ifans cyn iddo fe'n seren enwog!)

Wel, dyma fi am y tro.  Wela i chi cyn hir :)

Rx

Geirfa

  • Rhoi'r gorau - to give up
  • Y Grawys - Lent
  • Methu - fail
  • Uchelgeisiol - ambitious
  • Ymarferol - practical
  • Dyfalbarhad - perseverence
  • Dyfalbarhau - persevere
  • Ysgrifenedig - written

No comments:

Post a Comment