Wednesday 6 February 2013

Y Dinas Perffaith?

O, helo eto.  Sori mod i wedi bod yn dawel yn ddiweddar.  Gobeithio chi 'di bod yn cadw'n iawn :)

Rydyn ni'n siarad lot yn ein dosbarth Cymraeg ni am y lle 'dyn ni'n byw; Caerdydd.  Dwi wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd nawr, a dwi'n rili hoffi'r ddinas.  Yn fy marn i, Caerdydd ydy'r dinas perffaith. Pam?  Wel, dyma rhesymau fi...

Maint y lle
Dydy Caerdydd ddim yn rhy fawr, ond hefyd ddim yn rhy fach.  Mae'r ddinas yn accessible iawn a dwi'n rili hoffi bod fi'n abl i gerdded o gwmpas y dinas yn eitha hawdd.

Awyrgylch
Mae Caerdydd yn teimlo'n cyfeillgar iawn.  Mae'r pobl yn hyfryd ac yn barod i helpu chi (fwyaf yr amser!)  A does dim byd sy'n cymharu i Gaerdydd ar ddiwrnod rhyngwladol (ie, dwi'n siarad am rygbi!)

Amgylchedd
Dwi'n teimlo'n lwcus iawn yn fyw yng Nghaerdydd achos mae llawer o lleoedd gwyrdd.  Dwi'n rili hoffi'r parciau yng Nghaerdydd - Parc y Rhath, Parc Fictoria, Parc Bute... does dim diwedd i'r rhestr!  Mae'n neis, hefyd, i gael canol y ddinas yn agos iawn at Bae Caerdydd, sy'n teimlo'n hollol gwahanol.

Siopa
Er bod Canolfan Dewi Sant yn gwych, dwi'n rili hoffi'r siopau annibynnol yn Gaerdydd.  Mae'r arcedau yn bendigedig, a dwi'n meddwl ein bod ni'n lwcus iawn i gael cymaint o siopau annibynol sy'n diddorol ac yn rhoi synnwyr o gwahaniaeth i ganol y ddinas.  Yn arbennig, dwi wrth fy modd yn crwydro trwy Royal Arcade, yn mwynhau'r bwyd y byd yn Wally's Delicatessen neu'n chwilio am anrhegion yn Rossiters.  Gwych!

Wel, dyna rhesymau fi.  Efallai mae barnau gyda chi?  Croeso i chi eu rhannu :)

Gyda llaw, mae Lowri Haf Cooke wedi ysgrifennu llyfr am Gaerdydd a'i hoff lleodd yn y ddinas.  Enw y llyfr ydy Canllaw Bach Caerdydd.  Dwi'n edrych ymlaen at ddarllen y llyfr a wnai dweud wrthoch chi beth dwi'n meddwl.

Hwyl am y tro!
Rx


Geiriadur
  • Rhesymau - reasons
  • Maint - size
  • Awyrgylch - atmosphere
  • Cyfeillgar - friendly
  • Rhyngwladol - international
  • Amgylchedd - environment
  • Annibynnol - independent
  • Crwydro - to wander




No comments:

Post a Comment