Wednesday 17 April 2013

Blogwr Drwg

Helo helo!

Dwi heb ysgrifennu post ers tro...mor hir, nes i anghofio'r password i'r blog!!  Mae'n ddrwg 'da fi; dwi'n mynd i trio i fod yn blogwr gwell yn y dyfodol :)

Wel, mae'r Pasg ar ben (er fod wyau Pasg dal yma - iym iym!) a dwi wedi bod yn brysur iawn yn  ymarfer Cymraeg fi.  Er bod dwi heb ysgrifennu lot, dwi wedi bod yn siarad lot mwy yn Gymraeg, ac yn darllen cylchgronnau a llyfrau.  Dwi wedi gwylio mwy o raglenni Cymraeg hefyd.  Dyma 'overview'(!)...

Siarad
Dwi'n rili dechrau teimlo'n lot mwy o hyderus yn siarad yn Gymraeg gyda pobl eraill, a dwi'n meddwl mod i wedi datblygu cymaint dros y misoedd diwethaf.  Dwi ddim yn hollol siwr beth sy wedi newid, ond dwi'n rili dechrau i mwynhau siarad yn Gymraeg, yn hytrach na teimlo'n ofnus pan mae rhywun yn dweud rhywbeth yn Gymraeg i fi!!  Dwi mor ddiolchgar i ffrindiau a theulu sy wedi bod yn helpu fi, a dwi'n gwybod mod i'n lwcus iawn i gael ffrindiau sy'n mor amyneddgar!  Sialens mawr i fi ydy acennau; Gog yw gลตr fi (a lot o ein ffrindiau), ond 'dyn ni'n byw yn y De.  Ond dwi'n dechrau teimlo'n mwy cyfforddus gyda acennau gwahanol.  Mae'n helpu i wylio rhaglenni ar y teledu hefyd achos mae llwyth o acennau yno.

Darllen
Ers dechrau dysgu Cymraeg, dwi wedi bod yn darllen Lingo nawr ac yn y man.  Ond, yn ddiweddar, dydy'r cylchgrawn ddim yn teimlo fel gymaint o sialens i fi.  Dwi ddim yn cwyno am y cylchgrawn o gwbl; mae hi'n bendigedig i ddysgwyr a dwi wedi mwynhau ei darllen dros y blynyddoedd.  Felly, wythnos diwetha, prynais i Golwg.  Dwi wedi gweld Golwg o'r blaen, ond wedi teimlo bod hi'n rhy anodd i fi yn y gorffennol.  Ond, wythnos diwetha, ro'n i'n teimlo'n lot mwy cyfforddus yn ei darllen. 

Gwylio
Dwi'n trio i wylio mwy o raglenni ar S4C fel newyddion, Cyw (Y Dywysoges Fach yw hoff rhaglen Cyw fi!) ac unrhywbeth arall sy'n diddorol i mi.  Ces i fy mhrofiad cyntaf eleni gyda Can i Gymru!  A roedd hi'n eitha da i fod yn onest!  Meddyliais i bod hi'n eitha hawdd i wylio achos yr egwyliau gyda'r caneuon.  Hefyd, nes i fwynhau fod yn rhan o'r sgwrs ar Trydar!! Peth gwych achos 'dych chi'n gallu trafod y rhaglen ac yn rhannu barn.  Fel dywedais i, dwi'n meddwl bod gwylio rhaglenni Cymraeg yn helpu fi i ddeall geiriau mewn acennau gwahanol, felly dwi'n mynd i trio gwylio lot mwy o S4C.

Felly, dyna fi am y tro!  A wna i trio i fod yn blogwr gwell yn y dyfodol :)  Gobeithio eich gweld yma cyn hir

Rx

Geirfa

  • Ar ben - over / finished
  • Yn hytrach na - rather than
  • Ofnus - afraid / scared
  • Diolchgar - grateful