Wel, yn fwy na rhywbeth arall, dwi'n meddwl bod mwy o hyder gyda fi nawr (mae hyder yn thema enfawr ar blog 'ma!) Dwi'n trio i ddefnyddio'r iaith Gymraeg yn fy mywyd dyddiol. Dydy hi ddim yn hawdd o gwbl; Saesneg ydy fy mam-iaith, a mae'n anodd iawn i siarad Cymraeg yn naturiol. Ond, dwi wedi sylweddoli bod rhaid i fi ymarfer, ymarfer, ymarfer! Mae'r dosbarth Cymraeg wedi helpu eleni achos y pwyslais ar siarad Cymraeg.
Dwi dal yn dysgu, a mae llawer mwy i wneud. Dwi dal yn aros am y 'lightbulb moment' pan dwi'n teimlo fel siaradwr Cymraeg go-iawn!! Ond, mae mwy o gobaith gyda fi nawr bydd y diwrnod 'na yn dod!
Dwi wedi mwynhau'r dosbarthiadau eleni yn fawr iawn, a dwi rili eisiau barhau i ddysgu. Wel, dwi wedi neud ymrwymiad nawr!!!
Hwyl am y tro!
Rx
Geirfa
- mam-iaith - mother tongue
- sylweddoli - to realise
- pwyslais - emphasis
- go-iawn - real
- ymrwymiad - commitment
No comments:
Post a Comment