Wednesday 16 January 2013

Ar flaen fy nhafod

Helo, helo!  Neis gweld chi eto :)

Dwi mor hapus a ddiolchgar am yr ymateb i'r blog bach 'ma.  Diolch yn fawr iawn os 'dych chi wedi ymweld yn barod, neu os 'dych chi wedi re-tweeted y linc ar Twitter.  Bydd y blog yn datblygu dros amser, dwi'n siwr, ond dwi rili eisiau gwybod os 'dych chi'n hoffi'r blog (ac os 'dych chi ddim yn!), ac os oes unrhywbeth chi eisiau gweld yma.

Eniwe, on i'n meddwl dylwn i egluro'r enw.  Pam ydw i wedi dewis 'Ar Flaen Ei Thafod' am y blog 'ma?  Wel, yn fy marn i, mae'r idiom bach neis yn dweud yn union beth lot o ddysgwyr yn teimlo am ddysgu Cymraeg, yn enwedig yn y camau hwyrach o ddysgu.  Er bod dwi'n abl i siarad a ffurfio brawddegau (wel, sort of!), dwi wastad yn teimlo bod dim digon o vocab gyda fi.  A phan dwi wedi dysgu gair defnyddiol newydd, dwi'n anghofio'r gair pan dwi angen ddefnyddio fe!  O, dwi'n teimlo fel reit twpsyn weithiau!

Dwi'n hefyd siarad â fy hun yn fy mhen yn Gymraeg (...dwi'n gwybod bod chi'n neud e hefyd!)  Dwi wastad yn cael sgwrs Cymraeg gwych gyda fy hun.  Ond, yna, pan mae'r amser yn dod i siarad gyda rhywun arall yn Gymraeg, dwi'n cael panig ac yn ddim yn gallu cofio unrhywbeth!

Problem arall ydy dwi'n ffeindio dydy fy mhen ddim yn gallu cadw i fyny gyda fy ngheg!!  Does dim byd mwy rhwystredig (ie, dwi wedi defnyddio'r geiriadur am y gair 'na!) na ddim fod yn abl i rhoi dy farn di mewn sgwrs achos ti ddim yn gallu cyfieithu dy meddyliau yn ddigon cyflym.

Siwr o fod, mae'r ateb ydy ymarfer.  Dydy dysgwyr fel ni ddim yn gallu mynd i wersi Cymraeg unwaith yr wythnos yn unig ac yn disgwyl fod yn abl i siarad Cymraeg yn rhugl!  Rhaid i ni siarad, siarad, siarad.  Dwi'n trio i cymryd bob siawns ar gael i siarad Cymraeg - yma, ar Twitter, gyda gŵr fi, gyda ffrindiau, etc, etc.  Mae'n swnio'n digon hawdd ;)  Ond hyder ydy'r allwedd...a chymhelliant

Yn siarad am idioms, dwi wrth fy modd gyda nhw.  Ffefryn fi ydy, "Rwy'n barod i roi'r ffidil yn y tô!"  Gwych!  Mae lot mwy o idioms ddiddorol ar gwefan Say Something In Welsh

Neis gweld chi yma, a dewch nôl yn fuan :)

Hwyl am y tro!
Rx

Geiriadur

  • Camau - steps/stages
  • Panig - panic
  • Rhwystredig - frustrating
  • Cyfieithu - to translate
  • Meddyliau - thoughts
  • Cymhelliant - motivation
  • Ffefryn - favourite

No comments:

Post a Comment